Beatrice Green | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Hydref 1894 ![]() Abertyleri ![]() |
Bu farw | 19 Hydref 1927 ![]() Aber-bîg ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweithredydd gwleidyddol, athro, areithydd ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur ![]() |
Roedd Beatrice Green (ganwyd Dykes; 1 Hydref 1894 – 19 Hydref 1927) yn ymgyrchydd llafur Cymreig. Roedd hi'n ffigwr allweddol yn y streic gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926 a’r cloi allan o’r glowyr. Areithiwr ac yn llenor oedd hi, a ddaeth yn arweinydd ym mudiad llafur De Cymru.
Cafodd Green ei geni yn Abertyleri, sir Fynwy, yn ferch i William a Mary Dykes; roedd William yn gweithiwr alcam a glöwr.[1] Lladdwyd un o'i brodyr mewn damwain lofaol yn 1910. Astudiodd hi yn Ysgol Ramadeg Abertyleri, ac wedyn daeth hi'n athrawes. Bu'n weithgar yn yr ysgol Sul yn Eglwys y Bedyddwyr yn Ebeneser, a bu'n aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur yn sir Fynwy. Ar 22 Ebrill 1916, priododd â’r glöwr Ronald Emlyn Green, a fe’i gorfodwyd allan o’i swydd oherwydd bar priodas y Deyrnas Unedig.[2][3]
Ym 1922, daeth Green yn ysgrifennydd "Linen League" yr ysbyty lleol, grŵp o ddeugain o ferched a wirfoddolodd i olchi a chyflenwi llieiniau'r ysbyty. Daeth Green yn "ymgyrchydd brwd o blaid rheoli genedigaethau". Gyda Marie Stopes, arweiniodd ymgyrch lwyddiannus i sefydlu clinig rheoli genedigaethau yn yr ysbyty. [4] Dechreuodd hefyd gyfrannu i gylchgrawn sosialaidd Ffrengig ac ysgrifennodd i'r cylchgrawn Labour Woman in Britain.[5]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search